Rhif y ddeiseb:  P-06-1280

Teitl y ddeiseb: Canslwch arholiadau Safon UG a Safon Uwch yng Nghymru ar gyfer haf 2022

 

Rwy’n teimlo y dylai arholiadau yng Nghymru gael eu canslo ar gyfer haf 2022 oherwydd mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar amser addysgu disgyblion i wahanol raddau ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn ysgol. Rwy’n teimlo hefyd pe bai arholiadau yn mynd yn eu blaen y byddai’n cael effaith ddramatig ar iechyd meddwl a gorbryder disgyblion ar adeg lle mae cyfraddau hunanladdiad ymhlith pobl yn eu harddegau ar eu huchaf.  Fy marn i a channoedd o ddisgyblion eraill yw y dylid canslo arholiadau disgyblion ar gyfer haf 2022.

 

 

 

1.        Arholiadau yn 2020

Ym mis Mawrth 2020, cyhoeddodd Kirsty Williams,  y Gweinidog Addysg ar y pryd, na fyddai cyfres arholiadau TGAU a Safon Uwch haf 2020 yn mynd rhagddynt. Roedd 'gradd deg' i fod i gael ei dyfarnu i ddysgwyr, 'gan dynnu ar ystod yr wybodaeth sydd ar gael'. Roedd graddau dysgwyr i fod i gael eu dyfarnu ar sail gwybodaeth a gyflwynodd ysgolion a cholegau i CBAC.

Y cynllun cychwynnol oedd i'r graddau hynny gael eu 'safoni' gan ddefnyddio modelau safoni CBAC, a gymeradwywyd gan y rheoleiddiwr, Cymwysterau Cymru.  Cafodd y dull hwn ei newid ar 12 Awst 2020. Byddai ymgeiswyr a oedd i fod yn sefyll eu harholiadau Safon Uwch yn cael yr un radd ag a gawsant yn eu harholiad Safon UG yn awtomatig os oedd y radd honno’n uwch na'r hyn a gyfrifwyd gan CBAC. Cyhoeddwyd newid pellach ar 17 Awst a dyfarnwyd graddau ar sail y wybodaeth yr oedd ysgolion a cholegau wedi'i chyflwyno.

2.     Arholiadau yn 2021

Ar 10 Tachwedd 2020, cyhoeddodd Kirsty Williams na fyddai arholiadau diwedd blwyddyn yn 2021.  Ar 20 Ionawr 2021, cyhoeddodd y byddai cymwysterau TGAU, Safon UG a Safon Uwch dysgwyr yn cael eu dyfarnu drwy ganiatáu i ganolfannau bennu graddau, a hynny ar sail asesiad ysgolion a cholegau (canolfannau) o waith dysgwyr. Mae rhagor o wybodaeth yn yr erthygl hon gan Ymchwil y Senedd.

3.     Cyfres arholiadau'r haf 2022

Dechreuodd dysgwyr sefyll eu harholiadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol ar 16 Mai 2022.

Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru y byddai arholiadau yn haf 2022. Cadarnhawyd hyn eto ganddynt ar 5 Ionawr 2022  gan ddatgan mai Llywodraeth Cymru  fyddai’n gwneud unrhyw benderfyniad i ganslo arholiadau.

Dywedodd Cymwysterau Cymru y byddai’r gofynion asesu ar gyfer cymwysterau TGAU, Safon UG a Safon Uwch CBAC, a’r Dystysgrif Her Sgiliau yn cael eu haddasu i gydnabod effaith yr amser addysgu a dysgu wyneb yn wyneb a gollwyd yn ystod y pandemig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud droeon mai ei bwriad yw i arholiadau fynd rhagddynt eleni.  Yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog  (16 Rhagfyr 2021), esboniodd y Prif Weinidog pam roedd Llywodraeth Cymru am i’r arholiadau fynd rhagddynt:

§    Cydraddoldeb â gweddill y DU – i’r rhai sy’n gwneud cais am le mewn prifysgol y tu allan i Gymru, dylai fod gan y cymhwyster statws cyfartal â dysgwyr mewn awdurdodaethau eraill sydd hefyd yn bwriadu cynnal arholiadau’r haf hwn.

§    Tegwch – trwy ddefnyddio’r system a oedd ar waith ar gyfer haf 2021, disgynnodd perfformiad dynion ifanc o gefndiroedd dosbarth gweithiol. 

Cyhoeddodd Cymwysterau Cymru eu Dadansoddiad Cydraddoldeb Cymwysterau Cyffredinol yn haf 2021ym mis Hydref 2021.

Ym mis Hydref 2021, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru sut y byddai’n graddio gwaith dysgwyr. Byddai 2022 yn flwyddyn bontio i adlewyrchu’r ffaith ein bod mewn cyfnod o adfer y sector ar ôl y pandemig a bod addysg dysgwyr wedi dioddef. Yn 2022, y nod fydd sicrhau bod canlyniadau arholiadau’n  adlewyrchu pwynt hanner ffordd, yn fras, rhwng 2021 a 2019. Yn 2023, y nod fydd sicrhau bod canlyniadau, unwaith eto, yn cyd-fynd â chanlyniadau’r blynyddoedd cyn y pandemig.

4.     Y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru

Ar 15 Rhagfyr 2021, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg  gyllid o £24m i helpu dysgwyr yr effeithiodd y pandemig arnynt.  O hyn, bydd £7.5m yn cael ei ddefnyddio i roi cymorth ychwanegol i ddysgwyr sydd mewn blwyddyn arholiad - i helpu dysgwyr i feithrin eu sgiliau, ehangu eu gwybodaeth a magu hyder, yn ogystal ag i roi cymorth i ddisgyblion sy’n teimlo’n bryderus am arholiadau. Bydd yr ysgolion hynny sydd â’r niferoedd mwyaf o ddysgwyr sy’n cael prydau ysgol am ddim yn cael blaenoriaeth.

Bydd dros £7m yn mynd i gynorthwyo dysgwyr y mae eu lefelau presenoldeb wedi gostwng yn ystod y pandemig. Bydd cymorth pwrpasol yn cael ei ddarparu i helpu disgyblion blwyddyn 11 sydd â phresenoldeb isel i gwblhau eu TGAU neu i gyrraedd y cam nesaf yn eu haddysg neu i ddechrau gyrfa, ac i gynorthwyo dysgwyr mewn blynyddoedd eraill. Bydd cyllid hefyd yn cael ei roi i hybu llesiant ac addysg dysgwyr mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion.

Ar 3 Mai 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newidiadau i’r canllawiau hunanynysu i ddysgwyr sy'n sefyll arholiadau ac sy'n cael prawf COVID-19 positif.  Ar 3 Mai 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newidiadau i’r rheolau hunanynysu i ddysgwyr  sy'n sefyll arholiadau ac sy'n cael prawf COVID-19 positif.  Mae’r cyfnod hunanynysu sy’n cael ei argymell yn awr yn fyrrach i ddysgwyr sydd ar fin sefyll arholiadau, nag i eraill, ar yr amod eu bod yn profi’n negyddol.

 

Ym mis Mai 2022, cyhoeddodd y Cyd-gyngor Cymwysterau  ganllawiau diwygiedig ar y broses ystyriaeth arbennig. Drwy’r broses ystyriaeth arbennig, gellir addasu marc neu radd ymgeisydd ar ôl yr arholiad os cafodd salwch neu anaf dros dro neu oherwydd digwyddiad arall y tu allan i reolaeth yr ymgeisydd pan gafodd ei asesu.

Dim ond pan fydd dysgwr yn absennol o uned asesu arholiad neu ddi-arholiad am reswm derbyniol y gellir dyfarnu gradd drwy'r broses ystyriaeth arbennig.  Os bydd ymgeisydd yn hunanynysu’n unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru adeg yr arholiad, ystyrir ei fod yn absennol o’r arholiad am reswm derbyniol. Ysgrifennodd Cymwysterau Cymru  at ysgolion a cholegau yn ddiweddar (13 Mai 2022) yn cadarnhau trefniadau arholiadau’r haf hwn.

 

5.    Y camau y mae’r Senedd wedi’u cymryd

Ar 7 Chwefror 2022, trafododd  y Pwyllgor Deisebau ddeiseb, sef Canslwch arholiadau TGAU yng Nghymru (P-06-1239).  Nododd y Pwyllgor fod y Llywodraeth wedi egluro mai ei bwriad yw i arholiadau fynd rhagddynt eleni ac y bydd cynlluniau wrth gefn os bydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn ei gwneud yn amhosibl i hynny ddigwydd.  Roedd y Pwyllgor yn cydnabod y pwysau a oedd yn wynebu pobl ifanc yn ystod y cyfnod dan sylw ond dywedodd ei bod yn anodd gweld beth arall y gellid ei wneud mewn perthynas â’r ddeiseb.  Cytunodd i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.